Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profileg
Newyddion S4C

@NewyddionS4C

Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. 💻📱 Stori? Ebostiwch [email protected]

ID:202553813

linkhttp://linktr.ee/newyddions4c calendar_today14-10-2010 09:11:05

23,3K Tweets

11,3K Followers

1,6K Following

Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae dyn 71 oed o Wrecsam wedi cael ei garcharu am gam-drin plentyn yn rhywiol

newyddion.s4c.cymru/article/21052

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🚴‍♂️ 'Rwyf wedi cael gyrfa anhygoel a dwi ddim yn difaru unrhyw beth'

Mae’r Cymro Luke Rowe wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o seiclo proffesiynol ar ddiwedd y tymor

newyddion.s4c.cymru/article/21050

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae rhieni Madeline McCann wedi cyhoeddi neges yn dweud bod absenoldeb y ferch fach o'i bywydau yn parhau i achosi loes

newyddion.s4c.cymru/article/21037

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae dyn o’r Felinheli wedi derbyn dedfryd carchar ar ôl ei gael yn euog o fod â crac cocên yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi

newyddion.s4c.cymru/article/21053

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

'Mae'n gysur i fi cael bod yn gefn i rywun arall achos dyna be' o'n i'n colli pan o'n i'n colli fy ngwallt'

Mae dynes ifanc o Ynys Môn sy'n byw gydag alopecia yn gobeithio cynnig cysur a chymorth i bobl eraill sy'n dioddef o'r cyflwr

newyddion.s4c.cymru/article/21022

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

'Mae rhyw agwrymu i mi falle bod 'na benderfyniadau gwleidyddol tu
ôl i hyn.'

Mae safle Trawsfynydd yng Ngwynedd wedi cael ei ddiystyru fel lleoliad ar gyfer gorsaf niwclear newydd gan Great British Nuclear (GBN).

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🔵🔴🟠 'Mae'n ymddangos ei fod yn rhy hwyr i'r Ceidwadwyr wneud unrhyw beth.'

Dyma adroddiad Catrin Haf Jones am yr ymateb i ganlyniadau etholiadau lleol Lloegr.

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🏭 'Mae cynigion y cwmni yn gwbl annerbyniol.'

Mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yng nghwmni dur Tata yn dweud bod trafodaethau wedi torri i lawr.

newyddion.s4c.cymru/article/21055

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

'Roedd yn fab, brawd, ŵyr ac ewythr cariadus, a bydd colled ar ei ôl am byth.'

Mae teulu dyn ifanc wedi rhoi teyrnged iddo ar ôl i'w gorff gael ei ddarganfod yn aber Afon Cleddau yn Sir Benfro .

newyddion.s4c.cymru/article/21049

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae athro 29 oed o Gaerdydd a gafodd ryw yn gyson gyda disgybl 16 oed wedi cael dedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar.

newyddion.s4c.cymru/article/21057

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🗳️ 'Mi all Keir Starmer ddechrau mesur y cyrtens yn Downing Street.'

Ymateb Richard Wyn Jones wrth i ganlyniadau diweddaraf etholiadau ddydd Iau gael eu cyhoeddi.

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae llys wedi clywed fod ffôn symudol oedd yn eiddo i brifathro yng Ngwynedd wedi bod yn yr un lleoliadau anghysbell â ffôn merch y mae wedi ei gyhuddo o'i cham-drin

newyddion.s4c.cymru/article/21054

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🧗 'Mae pwysau enfawr y niferoedd sy'n dod yn arwain at broblemau sbwriel, parcio a phethau gwaeth.'

Mae yna alwad ar ymwelwyr i 'barchu' parc cenedlaethol Eryri dros Ŵyl y Banc.

newyddion.s4c.cymru/article/21027

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🚴🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Mae'n rhaid credu.'

Ar ôl y siom o orffen yn ail o 14 eiliad yn y Giro d'Italia y llynedd, bydd Geraint Thomas ymysg yr enwau mawr ar linell gychwyn y ras eto yn Turin ddydd Sadwrn.

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae dyn o Langrannog yng Ngheredigion wedi cael ei garcharu am dair blynedd a chwe mis am ymosod yn rhywiol ar fenyw.

newyddion.s4c.cymru/article/21044

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae rhai o ganlyniadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru wedi eu cyhoeddi, gan gynnwys y comisiynwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru.

newyddion.s4c.cymru/article/21042

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🎤 🎸 Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn 'paratoi am dymor prysur yr haf' gan ddechrau pan y bydd Bruce Springsteen yn perfformio yng Nghaerdydd ddydd Sul
newyddion.s4c.cymru/article/21035

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Fe fydd 'Bwrdd Crwn' yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn 'ganolog' i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
newyddion.s4c.cymru/article/21041

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

🎼 Mae'r Delynores Frenhinol Swyddogol, Alis Huws, wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni cerddoriaeth glasurol.

newyddion.s4c.cymru/article/21024

account_circle
Newyddion S4C(@NewyddionS4C) 's Twitter Profile Photo

Mae Clwb Pêl-droed Amlwch wedi cyhoeddi eu bod wedi ‘torri bob cysylltiad’ gydag unigolyn yn dilyn digwyddiad honedig ar gae pêl-droed.

newyddion.s4c.cymru/article/21040

account_circle